Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 22 Tachwedd 2018
Amser: 09.19 - 13.51
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Martin Jennings, Arweinydd y Tîm Ymchwil Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams, Clerc Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2. Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i John Chick ar ei benodiad diweddar yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i John am ei waith, ei arweiniad a'i gefnogaeth i'r Bwrdd.
1.3. Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i Rebecca Hardwicke ar ei phenodiad i'r rôl y mae John yn ei gadael.
1.4. Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.
1.5. Datganodd y Cadeirydd fuddiant mewn perthynas ag eitem dau, gan ei bod yn Gyfarwyddwr anweithredol yng nghwmni Thompson's Solicitors.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.
2.1. Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n canolbwyntio ar wariant ar lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa'r Aelodau, sy'n dod o dan ran un o'i adolygiad.
2.2. Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y materion a godwyd yn ei gyfarfod nesaf.
3.1. Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer prisio'r terfyn uchaf ar gostau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.
3.2. Cytunodd y Bwrdd i fonitro'r sefyllfa.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses o brisio'r terfyn uchaf ar gostau yn y flwyddyn newydd.
4.1. Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywydd a goblygiadau'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i'r Bwrdd.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i ymateb i'r Llywydd.